Cymorth ar gyfer Windows 10

datrys problemau wrth fewngofnodi i’r ap xbox

Datrys problemau wrth fewngofnodi i’r ap Xbox

Os ydych chi’n cael trafferth yn mewngofnodi i’r ap Xbox, dyma ambell beth i chi roi cynnig arnyn nhw.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cysylltu â’r rhyngrwyd.
Ewch i Xbox.com a mewngofnodi yno i wneud yn siŵr bod y Gwasanaeth Xbox ar waith a does gennych chi ddim problemau gyda’ch cyfrif.


Ar eich cyfrifiadur, ewch i Cychwyn > Gosodiadau > Amser ac iaith. O dan Dyddiad ac amser , gwnewch yn siŵr bod y gosodiad Gosod amser yn awtomatig ar waith.
Os fydd dim un o’r dewisiadau eraill yn gweithio, ewch i Cychwyn > Gosodiadau > Cyfrifon a dod o hyd i’r cyfrif Microsoft roeddech chi wedi’i ddefnyddio i fewngofnodi i’r ap Xbox, a dewis Tynnu. Yna ewch yn ôl i’r ap Xbox a mewngofnodi gyda’r cyfrif Microsoft rydych chi newydd ei dynnu.

Exit mobile version