gweld neu ddileu hanes pori yn microsoft edge

Windows 10

Eich hanes pori ydy’r wybodaeth mae Microsoft Edge yn ei chofio—gan gynnwys cyfrineiriau, gwybodaeth rydych chi wedi’i rhoi mewn ffurflenni, a safleoedd rydych chi wedi ymweld â nhw—ac yn ei storio ar gyfrifiadur wrth i chi bori’r we.
I weld eich hanes pori, dewiswch Hyb > Hanes. I’w ddileu, dewiswch Clirio’r holl hanes, dewiswch y mathau o ddata neu ffeiliau rydych chi am eu tynnu oddi ar eich cyfrifiadur, ac wedyn dewiswch Clirio.

Parhau i ddarllen “gweld neu ddileu hanes pori yn microsoft edge”