Mae rhai fersiynau o Windows 10 yn caniatáu i chi ohirio uwchraddio ar eich cyfrifiadur. Pan fyddwch chi’n gohirio uwchraddio, fydd nodweddion newydd Windows ddim yn cael eu llwytho i lawr na’u gosod am nifer o fisoedd. Fydd gohirio uwchraddio ddim yn effeithio ar ddiweddariadau diogelwch. Cofiwch y bydd gohirio uwchraddio yn eich rhwystro rhag cael y nodweddion Windows diweddaraf cyn gynted â byddan nhw ar gael.
Trwsio cysylltiadau i ddyfeisiau sain Bluetooth a dangosyddion di-wifr
Sain Bluetooth
Os byddwch chi’n pwyso’r botwm Cysylltu yn y ganolfan gweithredu a dydy hynny ddim yn dod o hyd i’ch dyfais sain gyda Bluetooth wedi’i alluogi, rhowch gynnig ar hyn:
Bydd larymau’n canu hyd yn oed pan fydd yr ap ar gau, pan fydd y sain wedi’i dewi, pan fydd eich cyfrifiadur wedi’i gloi, neu (ar rai gliniaduron neu dabledi mwy diweddar sydd ag InstantGo), pan fydd yn y modd Cysgu.
Sut ydw i’n gwybod a ddylwn i ymddiried mewn gwefan yn Microsoft Edge?
Os ydych yn gweld botwm cloi wrth ymyl cyfeiriad gwefan yn Microsoft Edge, mae’n golygu:
Mae beth y byddwch yn ei anfon a derbyn o’r wefan yw ei amgryptio, sy’n ei gwneud yn anodd i unrhyw un arall gael yr wybodaeth hon.
Mae cyfrineiriau cryf yn helpu i rwystro pobl heb awdurdod rhag cael gafael ar raglenni, ffeiliau, ac adnoddau eraill, a dylent fod yn anodd eu dyfalu. Mae cyfrinair da:
Yn o leiaf 8 nod
Newid gosodiadau mewngofnodi prynu ar gyfer Siop Windows
Mae Siop Windows yn gofyn am eich cyfrinair bob tro yr ydych yn prynu rhywbeth. I symleiddio prynu a neidio dros y cam cyfrinair:
Ewch i’r ap Siop a dewiswch eich llun mewngofnodi wrth ymyl y blwch chwilio.
Cysylltwch ddyfais sain Bluetooth neu sgrin di-wifr i’ch cyfrifiadur
Cysylltwch ddyfais sain Bluetooth (Windows 10)
I gysylltu’ch penset, clustffon neu seinydd Bluetooth i’ch cyfrifiadur Windows 10, bydd angen i chi baru’r ddyfais yn gyntaf.
Trowch eich dyfais Bluetooth ymlaen a sicrhau ei bod yn weladwy. Mae sut rydych chi’n ei gwneud yn weladwy yn dibynnu ar y ddyfais. Edrychwch ar wybodaeth neu wefan y ddyfais i gael gwybod mwy.
Ar y bar tasgau, dewiswch eicon y ganolfan gweithredu, a gwneud yn siŵr bod y gosodiad Bluetooth ar waith.
Yn y ganolfan gweithredu, dewiswch Cysylltu, yna dewis eich dyfais.
Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau ychwanegol. Fel arall, rydych chi wedi gorffen.
Sgriniau Miracast di-wifr
Cysylltwch eich cyfrifiadur yn ddi-wifr i deledu, taflunydd neu fath arall o dangosydd allanol sy’n cefnogi Miracast.
Trowch eich teledu neu daflunydd ymlaen. Os ydych chi’n defnyddio dyfais neu addasydd Miracast, gwnewch yn siŵr ei fod wedi ei blygio i mewn i’r dangosydd.
Gwnewch yn siŵr bod Wi-Fi wedi ei diffodd ar eich cyfrifiadur.
Ar y bar tasgau, dewiswch eicon y ganolfan gweithredu > Cysylltu > dewis eich dangosydd.
Dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau ychwanegol ar y sgrin. Fel arall, rydych chi wedi gorffen.
Dangosyddion diwifr WiGig
Cysylltwch eich cyfrifiadur yn ddi-wifr i fonitor, taflunydd neu fath arall o dangosydd allanol sydd wedi ei gysylltu i ddoc WiGig.
Trowch y teledu neu daflunydd ymlaen.
Trowch eich doc WiGig ymlaen a gwnewch yn siŵr ei fod wedi ei gysylltu i’r dangosydd.
Gwnewch yn siŵr bod eich cyfrifiadur yn cefnogi WiGig a’i fod wedi’i droi ymlaen. Os yw eich cyfrifiadur yn cefnogi WiGig, byddwch yn gweld rheolydd WiGig yn Gosodiadau > Rhwydwaith a Rhyngrwyd > Modd awyren.
Mae Windows Hello yn ffordd mwy personol a diogel o fynd i mewn i’ch dyfeisiau Windows 10 yn gyflym drwy ddefnyddio eich ôl bys, eich wyneb neu’ch llygad.
Os oes gennych chi Windows 10, does dim modd i chi gael Hanfodion Diogelwch Microsoft. Ond dydych chi ddim angen hynny, gan fod gennych chi Windows Defender yn barod, sy’n rhoi’r un lefel o ddiogelwch.
Manylion gosodiadau cysoni ar ddyfeisiau Windows 10
Pan fydd cysoni ar waith, mae Windows yn cadw trefn ar y gosodiadau sy’n bwysig i chi ac yn eu gosod i chi ar eich holl ddyfeisiau Windows 10.
Gallwch ddewis cysoni pethau fel gosodiadau porwr gwe, cyfrineiriau a themâu lliw.