trwsio cysylltiadau i ddyfeisiau sain bluetooth a dangosyddion di-wifr yn windows 10 mobile

Trwsio cysylltiadau i ddyfeisiau sain Bluetooth a dangosyddion di-wifr

Sain Bluetooth

Os byddwch chi’n pwyso’r botwm Cysylltu yn y ganolfan gweithredu a dydy hynny ddim yn dod o hyd i’ch dyfais sain gyda Bluetooth wedi’i alluogi, rhowch gynnig ar hyn:


Gwnewch yn siŵr bod eich dyfais Windows yn gallu delio â Bluetooth a’i fod ar waith. Byddwch yn gweld botwm Bluetooth yn y ganolfan gweithredu.
Gwnewch yn siŵr bod y ddyfais sain gyda Bluetooth wedi’i alluogi ar waith a’i bod yn weladwy. Bydd sut mae gwneud hyn yn amrywio yn ôl dyfais, felly darllenwch y wybodaeth a ddaeth gyda’r ddyfais neu edrychwch ar wefan y gwneuthurwr.
Os ydych yn chwilio am ddyfeisiau gyda Bluetooth wedi’i alluogi ac eithrio sain, ewch i’r dudalen Gosodiadau Bluetooth. Ewch i Gosodiadau, dewiswch Dyfeisiau, dewiswch Bluetooth, dewiswch y ddyfais, dewiswch Tynnu dyfais, ac wedyn rhowch gynnig arall ar baru.

Dyfeisiau Miracast

Os byddwch chi’n pwyso’r botwm Cysylltu yn y ganolfan gweithredu a dydy hynny ddim yn dod o hyd i’ch dyfais, rhowch gynnig ar hyn:
Gwnewch yn siŵr bod eich dyfais Windows yn gallu delio â Miracast drwy ddarllen y wybodaeth a ddaeth gyda hi neu drwy edrych ar wefan y gwneuthurwr.
Gwnewch yn siŵr bod Wi-Fi ar waith.
Gwnewch yn siŵr bod y dangosydd rydych chi am ei daflunio yn gallu delio â Miracast a’i fod ar waith. Os na fydd, byddwch chi angen addasydd Miracast (sydd weithiau’n cael ei alw yn “dongl”) sy’n mynd i mewn i borth HDMI.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *