Sut mae diogelu eich cyfrifiadur Windows 10
Ble Mae’r Security Essentials?
Os oes gennych chi Windows 10, does dim modd i chi gael Hanfodion Diogelwch Microsoft. Ond dydych chi ddim angen hynny, gan fod gennych chi Windows Defender yn barod, sy’n rhoi’r un lefel o ddiogelwch.
Yn y bar chwilio, teipiwch Windows Defender.
Dewiswch Windows Defender yn y canlyniadau. Byddwch yn gallu gwirio eich cyfrifiadur a’ch lefel o ddiogelwch rhag firysau.

Rhoi Windows Defender ar waith neu ei ddiffodd
Yn Windows 10, mae Windows Defender bob amser ar waith a bob amser yn gweithio i ddiogelu eich cyfrifiadur. Bydd yn diffodd ei hun os ydych yn gosod ap gwrth-firws arall.
Mae Defender yn defnyddio diogelwch amser real i sganio ffeiliau rydych chi’n eu hychwanegu neu’n eu rhedeg ar eich cyfrifiadur. Gallwch ddiffodd diogelwch amser real dros dro drwy fynd i Gosodiadau > Diweddaru a diogelwch > Windows Defender.