sut mae gwella yn gweithio yn yr ap lluniau?

Sut mae Gwella yn gweithio yn yr ap Lluniau?

Sut mae’n gweithio

Mae’r ap Lluniau yn gwella lluniau’n awtomatig drwy addasu pethau fel lliw, cyferbyniad, disgleirdeb, llygaid coch, neu hyd yn oed sythu gorwel cam, yn ôl yr angen.


Fydd y newidiadau ddim yn cael eu cadw yn eich ffeiliau gwreiddiol—gallwch chi alluogi neu analluogi gwelliannau unrhyw bryd.
Os bydd tic ar y botwm Gwella mae eich llun wedi cael ei wella. Os nad oes tic, mae’r llun yn berffaith yn barod!

sut mae gwella yn gweithio yn yr ap lluniau?
sut mae gwella yn gweithio yn yr ap lluniau?

Ei alluogi neu ei analluogi

Yn yr ap Lluniau, defnyddiwch y botwm Gwella i newid rhwng y llun gwreiddiol a’r llun sydd wedi cael ei wella. Fydd gwella ddim yn newid eich llun gwreiddiol am byth.
I dynnu’r holl welliannau awtomatig ar yr un pryd, ewch i Gosodiadau yn yr ap Lluniau, a diffodd Gwella fy lluniau yn awtomatig. Gallwch chi ddal ati i wella eich lluniau fesul un, hyd yn oed pan fydd hyn wedi’i ddiffodd.

sut mae gwella yn gweithio yn yr ap lluniau?
sut mae gwella yn gweithio yn yr ap lluniau?

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *