Symud eitemau o’r ap Rhestr Ddarllen i Microsoft Edge
Mae rhestr ddarllen barod yn Microsoft Edge, y porwr newydd yn Windows 10. Os oeddech chi’n defnyddio’r ap Rhestr Ddarllen yn Windows 8.1 a’ch bod nawr wedi uwchraddio i Windows 10, symudwch eitemau o’r hen ap i Microsoft Edge.
Yn yr ap Rhestr Ddarllen, dewiswch eitem i’w hagor yn Microsoft Edge.
(Os yw’n agor mewn porwr gwahanol, ewch i Cychwyn yn gyntaf, wedyn Gosodiadau > System > Apiau diofyn a newid eich porwr gwe diofyn i Microsoft Edge.)
Yn Microsoft Edge, dewiswch yr eicon seren, dewiswch Rhestr Ddarllen, ac yna dewiswch Ychwanegu.
![symud eitemau o'r ap rhestr ddarllen i microsoft edge](https://win10.support/wp-content/uploads/2016/01/1fdc0f893412ce55f0d2811821b84d3b-543.jpg)