trwsio cysylltiadau i ddyfeisiau sain bluetooth a dangosyddion di-wifr yn windows 10

Trwsio cysylltiadau i ddyfeisiau sain Bluetooth a dangosyddion di-wifr

Sain Bluetooth

Os byddwch chi’n pwyso’r botwm Cysylltu yn y ganolfan gweithredu a dydy hynny ddim yn dod o hyd i’ch dyfais, rhowch gynnig ar y canlynol:
Gwnewch yn siŵr bod eich dyfais Windows yn gallu delio â Bluetooth a’i fod wedi’i alluogi. Byddwch yn gweld botwm Bluetooth yn y ganolfan gweithredu.


Os nad ydych chi’n gweld y botwm Bluetooth, rhowch gynnig ar ddiweddaru gyrrwr eich dyfais. Dyma sut: Ewch i Cychwyn, rhowch Rheolwr Dyfais, ei dewis oddi ar y rhestr o ganlyniadau, ac wedyn, yn Rheolwr Dyfais, dewch o hyd i’ch dyfais, ei de-glicio (neu gwasgu a gafael), dewis Diweddaru Meddalwedd Gyrrwr, dewiswch Chwilio’n awtomatig am feddalwedd gyrrwr wedi’i ddiweddaru, ac yna dilynwch gweddill y camau.
Os ydy Bluetooth ar waith, ac mae’r gyrrwr wedi’i ddiweddaru, ond dydy eich dyfais dal ddim yn gweithio, rhowch gynnig ar dynnu’r ddyfais a’i pharu eto. Dyma sut: Ewch i Cychwyn, rhowch Dyfeisiau, dewiswch Bluetooth, dewiswch y ddyfais, dewis Tynnu dyfais, ac wedyn rhowch gynnig arall ar baru.
Gwnewch yn siŵr bod y ddyfais sain sydd wedi cael ei galluogi ar gyfer Bluetooth ymlaen a bod modd ei chanfod. Bydd sut mae gwneud hyn yn amrywio yn ôl dyfais, felly darllenwch y wybodaeth a ddaeth gyda’r ddyfais neu edrychwch ar wefan y gwneuthurwr.

Dyfeisiau Miracast

Os byddwch chi’n pwyso’r botwm Cysylltu yn y ganolfan gweithredu a dydy hynny ddim yn dod o hyd i’ch dyfais, rhowch gynnig ar y canlynol:
Gwnewch yn siŵr bod eich dyfais Windows yn gallu delio â Miracast drwy ddarllen y wybodaeth a ddaeth gyda hi neu drwy edrych ar wefan y gwneuthurwr.
Gwnewch yn siŵr bod Wi-Fi ar waith.
Gwnewch yn siŵr bod y dangosydd rydych chi am ei daflunio yn gallu delio â Miracast a’i fod ar waith. Os na fydd, byddwch chi angen addasydd Miracast (sydd weithiau’n cael ei alw yn “dongl”) sy’n mynd i mewn i borth HDMI.

Dyfeisiau WiGig

Os byddwch chi’n pwyso’r botwm Cysylltu yn y ganolfan gweithredu a dydy hynny ddim yn dod o hyd i’ch dyfais, rhowch gynnig ar y canlynol:
Gwnewch yn siŵr bod eich dyfais Windows yn gallu delio â WiGig a’i fod ar waith. Os ydy eich cyfrifiadur yn gallu delio â WiGig, byddwch yn gweld botwm WiGig yn Gosodiadau > Modd awyren.
Gwnewch yn siŵr bod y dangosydd yn gallu delio â WiGig. Os na fydd, byddwch chi angen doc WiGig.

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *