newid y peiriant chwilio diofyn yn microsoft edge

Newid y peiriant chwilio diofyn yn Microsoft Edge

Mae Microsoft yn argymell defnyddio Bing i chi gael gwell profiad chwilio yn Microsoft Edge ar Windows 10. Bydd cadw Bing fel eich peiriant chwilio diofyn yn rhoi:
Cysylltiadau uniongyrchol i apiau Windows 10, gan fynd â chi’n syth at eich apiau yn gynt.
Awgrymiadau mwy perthnasol gan Cortana, eich cynorthwyydd personol digidol.


Help ar unwaith i chi allu manteisio i’r eithaf ar Microsoft Edge a Windows 10.
Ond mae Microsoft Edge yn defnyddio technoleg OpenSearch, fel y gallwch chi newid y peiriant chwilio diofyn.
Yn y porwr Microsoft Edge, rhowch wefan y peiriant chwilio (er enghraifft, www.contoso.com) ac agor y dudalen honno.
Dewiswch Mwy o weithredoedd (…) > Gosodiadau ac wedyn sgroliwch i lawr i ddewis Gweld gosodiadau uwch. Yn y rhestr o dan Chwilio yn y bar cyfeiriad gyda, dewiswch Newid.
Dewiswch wefan eich peiriant chwilio ac yna dewiswch Gosod yn un diofyn. Os nad ydych yn dewis y peiriant chwilio, bydd y botwm Gosod yn un diofyn. i’w weld yn llwyd.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *