Sut mae defnyddio’r ap Larymau a Chloc
Diystyru neu ailatgoffa larymau
Bydd larymau’n canu hyd yn oed pan fydd yr ap ar gau, pan fydd y sain wedi’i dewi, pan fydd eich cyfrifiadur wedi’i gloi, neu (ar rai gliniaduron neu dabledi mwy diweddar sydd ag InstantGo), pan fydd yn y modd Cysgu.
On fyddan nhw ddim yn gweithio pan fydd eich cyfrifiadur yn trwmgysgu neu wedi’i ddiffodd. Gwnewch yn siŵr bod eich cyfrifiadur wedi’i blygio i mewn i bŵer AC i’w atal rhag trwmgysgu.
I ailatgoffa neu i ddiystyru larwm:
Yn yr hysbysiad a fydd yn ymddangos, dewiswch Diystyru i’w ddiffodd neu Ailatgoffa er mwyn iddo ganu eto ar ôl cyfnod byr.
Os bydd yr hysbysiad yn cau cyn i chi ei gyrraedd, dewiswch yr eicon canolfan gweithredu yn y gornel dde isaf i’w weld yn y rhestr a’i dewis o fan honno.
Os ydy eich sgrin wedi cael ei chloi, bydd yr hysbysiad larwm yn ymddangos ar frig y sgrin cloi, a gallwch chi ei ddiffodd yn fan honno.
Beth sy’n newydd
Mae’r ap Larymau a Chloc yn cyfuno cloc larwm gyda chlociau’r byd, amserydd a stopwatsh. Dyma ambell beth gallwch chi ei wneud gyda’r ap hwn:
Clywed, ailatgoffa a diystyru larymau hyd yn oed pan fydd y sgrin ar glo neu pan fydd y sain wedi’i dewi
Dewis gwahanol synau neu eich cerddoriaeth eich hun ar gyfer y larwm
Cymharu amseroedd o gwmpas y byd
Clociau’r byd
Dyma sut mae ychwanegu lleoliad a chymharu amseroedd o amgylch y byd:
Yn yr ap Larymau a Chloc, dewiswch Cloc Byd, ac yna Newydd + ar y gwaelod.
Rhowch lythrennau cyntaf enw lleoliad rydych chi’n chwilio amdano ac wedyn ei ddewis yn y rhestr. Os nad ydych chi’n gweld yr un rydych chi’n chwilio amdano, rhowch leoliad arall sydd yn yr un gylchfa amser.
Dewiswch Cymharu amseroedd (y 2 gloc ar y gwaelod), ac yna symudwch y llithrydd i ddewis amser newydd i gymharu. Dewiswch leoliad ar y map i newid lle mae’r llithrydd yn cyfeirio at.
I adael y modd Cymharu Amseroedd, dewiswch y botwm Yn ôl neu pwyswch Esc.