Yn Windows
Os byddwch yn symud i wlad neu ranbarth arall, newidiwch eich gosodiad rhanbarth i ddal ati i siopa yn y Siop. Nodyn: Fydd y rhan fwyaf o gynnyrch sy’n cael ei brynu o Siop Windows mewn un rhanbarth ddim yn gweithio mewn un arall. Mae hyn yn cynnwys Xbox Live Gold a Groove Music Pass, apiau, gemau, cerddoriaeth, ffilmiau a rhaglenni teledu.
I newid eich rhanbarth yn Windows, yn y blwch chwilio, rhowch Rhanbarth, ac yna dewiswch Newid eich gwlad neu’ch rhanbarth.
O dan Gwlad neu ranbarth, dewiswch eich rhanbarth newydd.
Gallwch chi newid yn ôl i’ch rhanbarth gwreiddiol unrhyw bryd.
Ar wefan y Siop
Os byddwch yn symud i wlad neu ranbarth arall, newidiwch eich gosodiad rhanbarth i ddal ati i siopa yn y Siop. Nodyn: Fydd y rhan fwyaf o gynnyrch sy’n cael ei brynu o Siop Windows mewn un rhanbarth ddim yn gweithio mewn un arall. Mae hyn yn cynnwys Xbox Live Gold a Groove Music Pass, apiau, gemau, cerddoriaeth, ffilmiau a rhaglenni teledu.
Ar waith Siop Windows, sgroliwch i lawr i waelod y troedyn.
Dewiswch y ddolen iaith a dewis cyfuniad iaith – rhanbarth newydd.
Gallwch chi newid yn ôl i’ch rhanbarth gwreiddiol unrhyw bryd.
Cyfrif Xbox Live
Dyma sut mae newid y rhanbarth ar gyfer eich cyfrif Xbox Live.
Mewngofnodwch ar dudalen mudo Cyfrif Xbox Live .
Dewiswch Nesaf, yna y rhanbarth, ac yna Dwi’n Derbyn.